Rheolau
◆ Hyd y fideo: Hyd at 5 munud.
◆ Meddalwedd: Rhaid i'r prosiectau gael eu golygu yn Adobe Express, a'u cyflwyno fel dolen 'gweld-yn-unig'. Ewch i'r dudalen adnoddau i weld rhagor am hyn.
◆ Cystadleuwyr: Unrhyw ddisgyblion o ysgolion yng Nghymru (3-19). Os yn gweithio fel grŵp, dylai'r holl aelodau fod o'r un ysgol neu ffederasiwn.
◆ Maint y grŵp: Canateir unrhyw faint grŵp, ac ymgeiswyr unigol hefyd. Noder: ceisiwch osgoi prosiectau dosbarth-cyfan, gan nad ydynt yn rhoi cymaint o gyfle i bawb gyfrannu at y gwaith golygu, a maen nhw fel arfer yn fwy o waith i'r staff! Mae grwpiau bach yn berffaith i'r math yma o gystadleuaeth.
◆ Categorïau'r Gwobrau: Bydd rhain yn cael eu cyhoeddi yn nes at y dyddiad.